Rhestr Aros a Cheisiadau am Aellodaeth
Mae’r Pwyllgor wedi edrych yn ofalus ar y ffordd y mae aelod o’r cyhoedd yn ceisio am fwrin. Yr ydym wedi adolygu’r drefn, er mwyn hwyluso’r modd y mae unigolyn yn ceisio am fwrin yn yr aber ac ar y Parrog.
Yn y gorffenol, bu rhaid i nifer o bobl aros am flynyddoedd ar ôl gwneud cais, ac yn y cyfamser penderfynu nad oeddynt eisiau mwrin, ond heb ddweud wrth y Pwyllgor am eu penderfyniad. Roedd hyn yn gwastraffu amser yr ysgrifennydd, ac hefyd arian wrth ddanfon llythyron allan i weld beth oedd sefyllfa pbo un ar y rhestr aros.
Wedi’r adolygiad dyma fydd y drefn:
- Mae hawl gan bob un wneud ei cais cyntaf unrhyw amser o’r flwyddyn. Bydd eich manylion yn cael eu cofrestru ac yn cael eu defnyddio er mwyn eu gosod ar y rhestr aros.
- Rhaid i bob un sydd ar y rhestr wneud cais blynyddol yn ystod mis Medi er mwyn sicrhau cadw eu lle ar y rhestr aros. Nif fydd y Gymdeithas yn danfon negeseuon/ebyst i atgoffa pawb. Mae’n rhaid i’r unigolyn sicrhau ei fod yn gwneud ei gais yn flynyddol, hyd nes y bydd yn clywed oddiwrth y Pwyllgor ei fod yn llwyddiannus.
- Bydd eichlle ar y rhestr aros yn cael ei benderfynu yn hanesyddol ac ar y pryd y gwnaethoch y cais cyntaf, ac eich bod yn cadw danfon cais yn flynyddol yn ystod mis Medi.
- Pan ddaw mwrin yn rhydd, bydd yr Ysgrifennydd Aelodaeth yn cysylltu â
Bydd y drefn newydd yn sicrhau bod pob unigolyn yn cael y cyfle gorau ac yn sicrhau bod pawbv yn gwybod sut y mae’r drefn newydd yn gweithio.
Diolch i chi am eich cyd-weithrediad