Rhaid i bob cwch gadw at gyflynder
Rheolau
Mwrin
- Rhaid i bob cwch sydd â pheirant allanol esgynedig ddefnyddio rhyw fath o offer diogelu dros y goes e.e. bwced plastig
- Rhaid i bob cwch sicrhau ei fod yn cadw at gyflymder o 6 not wrth groesi’r sianel fordwyo. Bydd defnydd diofal o unrhyw fath o gwch yn golygu colli aelodaeth yn syth.
- Dylai bob perchennog/ gofalwr y cychod sicrhau fod rhaff ddigonol yn cael ei fonitro a’i ganiatau ganddynt ar bob adeg y llanw. Gallai adael rhaff angori yn rhy hir niweidio cwch cyfagos neu rhaff rhy fyr niweidio eich cwch.
- Gallai diystyru’r rheolau yma’n gyson olygu colli aelodaeth i berchennog y cwch.
- Ni ddylai aelodau is-osod na benthyg ei mwrin i aeolod arall na pherson arall.
- Rhaid i bob cwch ddefnyddio mwrin ag un rhaff ac mae’n rhaid i’r cwch gael ei fwrio yn gywir gan ystyried maint a math y cwch.
- Ni ddylai angor gael ei ddefnyddio fel cymorth i’r mwrin ar gyfer y cwch.
- Rhaid i bob cwch gael blocyn mwrin addas. Dylai rhain gael eu cadw mewn modd defynddiol a glan heb rhaff yn arnofio rhwng y cadwyn ar bwi.
- Os oes nam ar y gadwyn neu tacl y mwrin, dylai rhain gael eu trwsio ar unwaith, neu roi gwybod i’r Gymdeithas er mwyn eu trwsio.
- Rhaid i ymwelwyr sy’n berchen ar gwch hefyd gadw at rheolau’r Gymdeithas.
Rheolau Cyffredinol
1. Rhaid i bob aelod sydd yn defnyddio mwrin feddu ar yswiriant dilys at ddeunydd ei gwch. Rhaid danfon copi sydd yn weithredol pan yn adnewyddu aelodaeth yn flynyddol. Rhaid i aelodau newydd ddangos yswiriant gweithredol cyn ymgymryd ad ddwy flynedd ar brawf. Gall unrhyw swyddog o’r Pwyllgor ofyn i weld tystysgrif dilys ac sydd mewn grym oddi wrth unrhyw aelod o’r Gymdeithas sydd yn defnyddio mwrin. Dylsai maint yr yswiriant ddim fod yn llai nag dau miliwn o bunnoedd (£2,000,000). Ailedrychir ar y swm hwn o bryd i’w gilydd
2. Bydd aelod yn gorffen ei aelodaeth os ydy’r canlynol yn dod i rym:
- Bod yr aelod yn ymddiswyddo.
- Bod yr aelod yn methu â thalu y swm aelodaeth sydd yn ddilys
- Bod yr aelod wedi methu a darparu yr yswiriant sydd angen.
- Bod yr aelod wedi ei gael yn euog (ar ôl cael cyfweliad gan y Pwyllgor) o weithred sydd yn anghymwys ag aelodaeth o’r Gymdeithas, a bod y Pwyllgor wedi ei ddedfrydu o fwyafrif oddau allan o dri neu mwy o’r aelodau I’w ddiarddel o’r Gymdeithas
3. Os ydy aelod yn gwerthu ei gwch, rhaid hysbysu’r Pwyllgor trwy lythyr swyddogol. Rhaid i’r llythyr ddatgan a oes yna gwch arall yn mynd i ddefnyddio’r un mwrin. Rhai i’r newid yma gymryd lle o gewn deuddeg mis. Gall y cyfnod hwn gael ei ymestyn gan y Pwyllgor.
4. Rhaid i bob bwy ddangos y rhif yn eglur. Mae’r gofal yma yn nwylo deiliad y mwrin
Gweinyddu
- Rhaid symud bob caiac a chanŵ o feddiant y gymdeithas erbyn Hydref y 31ain. Bydd esgeuluso’r rheol hon yn golygu y caiff y cwch ei atafael, gyda ffi adfer yn cael ei godi i’r perchennog.
- Rhaid symud pob cwch tendio o’r man parcio cychod erbyn Hydref y 31ain. Un eithriad i’r rheol hon yw rheiny sydd yn dal â’u prif gwch ar angorfa’r perchennog.
- Rhaid i’r ffurflen gais/adnewyddu flynyddol gael ei harwyddo gan ddeiliaid yr angorfa. Mae hon yn ymrwymo perchennog y cwch i hysbysu’r pwyllgor fod ganddo ef/ ganddi hi yr yswiriant angenrheidiol i yswirio gwerth dwy filiwn o bunnoedd.
- Mae gan y Pwyllgor yr hawl i archwilio cadwyni angori ayyb ac i godi blociau angori “ymwrthodedig” ar hap er mwyn eu harchwilio. Caiff blociau a chadwyni sydd ddim i’r safon angenrheidiol eu hadnewyddu’n awtomatig heb drafodaeth gyda’r perchennog. Caiff yr hen floc a chadwyn ei gadw wedyn am chwe wythnos cyn eu gwaredu.
- O dan amgylchiadau eithriadol mae penderfyniad y Pwyllgor yn derfynol.
- Mae parc y dingi ac ardal barcio cychod yr aelodau Cymdeithasol ar gyfer aelodau yn unig.
- Rhaid i bob cwch sy’n defnyddio ardaloedd parcio y gymdeithas ddangos eu rhif swyddogol gan ddefnyddio sticeri y Gymdeithas (a ddarperir).
- Rhaid i Adran 3 y Ffurflen Gais i Adnewyddu Aelodaeth gael ei lenwi gan Aelodau Gohebol. Nid oes hawl gan aelodau’r Pwyllgor fod yn Weithredwyr. Mae’n bwysig fod y Gweithredwr a enwir yn yr adran hon yn ymwybododol fod ei enw/ ei henw yn cael ei ddefnyddio gan y perchennog, a’i fod ef/ei bod hi yn barod i ymgymryd â’r cyfrifoldeb. Gallai cwch a chaiff ei adfer gan y Pwyllgor olygu cost i’r perchennog.
Y Lanfa
- Ni ddylid gadael unrhyw gwch yn yr ardal angori heb neb i ofalu amdano oni bai bod perchennog y cwch yn llwytho neu’n dadlwytho.
- Dylai bob perchennog cychod bach sy’n defnyddio’r lanfa sicrhau bod eu cwch yn cael ei gario yn hytrach na’i lusgo dros y coedwaith.
- Dylech roi gwybod i aelod o’r pwyllgor am unrhyw niwed storm neu niwed gwrthdrawiad, neu gadewch nodyn gyda’ch enw a’ch rhif ffon yn Bwythyn yr Odyn.
- Dylai bob perchennog cwch fod yn ymwybodol o’r rheol fod ganddynt flaenoriaeth ar ddefnyddio’r lanfa, er ei fod yn ardal boblogaidd iawn gyda phlant a rhieni yn hel crancod o’r lefelau. Dylai gofyn yn gwrtais fod yn ddigon.